Felly sut gall Alpha CYMRU helpu rhedeg cwrs Alpha?
Beth wnawn ni:
- Rhestrir pob Cynghorwr Alpha yng Nghymru ar y wefan hon. Mae ganddynt gryn brofiad o redeg cyrsiau Alpha, ac fe fyddant yn hapus I rannu gwybodaeth ac awgrymiadau ymarferol – felly mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un ohonynt am sgwrs
- Anfonwch fanylion o'ch cyrsiau, o'ch gweithgareddau er mwyn eu rhestri ar ein tudalen Dyddiadur
- danfonwch hefyd fanylion ar gyfer y dyddiadur os yw'ch eglwys yn cynal Cwrs Priodas, Gweddi Rymus, neu weithgareddau Gofal am Droseddwyr
- darparwn "hot links" i adnoddau prif wefan Alpha UK i hwyluso 'r broses o chwilio am wybodaeth – gweler y cysylltiadau ar y dde am fanylion, ac i ddangos lle maeo'r Cwrs Alpha wedio'i addasu at amgylchiadau arbennig
NID ydym am wneud:
- ni fyddwn yn ail adrodd dim a geir ar brif wefan Alpha UK–gan eu bod nhw yn ei wneud yn well, ond fe'ch galluogwn i gysylltu â nhw
- ni fydd genym gofrestr o eglwysi sy'n rhedeg Alpha – dim ond dangos eu gweithgareddau ar dudalen 'Dyddiadur'
- ni fyddwn yn cyfieuthu popeth i'r Gymraeg, ond mae Llawlyfr Cwrs Alpha i'w gael yn Gymraeg oddiwrth Alpha UK drwy ddilyn y cyswllt 'Cyhoeddiadau' ar y dde
