Amcan cwrs Alpha yw cyflwyno ffeithiau sylfaenol y ffydd Gristnogol mewn cwrs 10 wythnos. o'Does dim gorfodaeth nac agenda gudd, dim ond siawns i ddarganfod ystyr Cristnogaeth drosoch eich hun, a chyfle os dymunwch i fynd ymhellach.
Mae'r rhan fwyaf o aelodau Alpha mor newydd i hyn oll a chwithau, felly ni fyddwch yn teimlo'n estron.
Fe'ch tywysir ar y chwith yn union at y prif dudalennau ar Alpha UK, lle mae rhagor o wybodaeth; felly mae'n werth treulio ychydig amser yn edrych o gwmpas.
Cysylltwch yn gyntaf â'r Cynghorwr Alpha lleol i gael manylion am ddyddiad a lleoliad y cwrs nesaf.
Edrychwch ar ein tudalen Dyddiadur am y gweithgareddau diweddaraf.
Aiff y cysylltiadau ar waelod y dudalen â chi'n union at Alpha UK a chymdeithasau perthnasol eraill. Defnyddiwn ein tudalen Dyddiadur i hysbysebu unrhyw weithgaredd a drefnir gan y cymdeithasau yma yng Nghymru.